#

 

 

 

 


Rhif y ddeiseb: P-05-726

Teitl y ddeiseb: Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol

Testun y ddeiseb: Oherwydd y pwysau cynyddol ar gyllidebau, mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn ystyried creu ymddiriedolaethau elusennol i gymryd drosodd y gwaith o redeg gwasanaethau cyhoeddus fel llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

Y brif fantais o drefniant o’r fath yw’r rhyddhad ardrethi y byddai gan elusen hawl i’w gael. Mae hyn gyfystyr â symud arian o’r gronfa ganolog o ardrethi annomestig ac i gyllideb yr awdurdodau. Nid oes unrhyw arian cyhoeddus yn cael ei arbed yn gyffredinol, er bod gorbenion sy’n gysylltiedig â sefydlu trefniadau o’r fath a all gynnwys gwneud taliadau i ymgynghorwyr preifat arbenigol.

Mae Cyngor Sir Penfro ar fin dechrau’r broses o greu elusen i gymryd drosodd y gwaith o redeg yr holl wasanaethau hamdden a diwylliannol yn y sir gyfan. Mae bron yn anochel y bydd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru yn gwneud yr un peth er mwyn ymdrin â’r pwysau amhosibl ar eu cyllidebau eu hunain.

Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i newid y rheolau rhyddhad ardrethi fel bod yr holl gyfleusterau hamdden a diwylliannol a gaiff eu rhedeg gan awdurdodau lleol yn cael eu hystyried yn yr un modd ag elusen. Os na chaiff hyn ei wneud, collir yr incwm ardrethi busnes hwn o hyd drwy greu’r ymddiriedolaethau elusennol hyn, ond byddwn yn colli rheolaeth ar ein gwasanaethau cyhoeddus yn ddiangen yn y broses.

Dylid cael gwared ar y cymhelliant diangen hwn i allanoli ein gwasanaethau hamdden a diwylliannol pwysig.

Y cefndir

Mae Adrannau 43(5) a (6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (y Ddeddf) yn darparu bod elusennau cofrestredig yn cael rhyddhad ardrethi busnes gorfodol o 80%, gyda Llywodraeth Cymru yn ariannu hyn.  Yn ogystal, mae gan yr awdurdod lleol lle y mae safle’r elusen ddisgresiwn i ddyfarnu rhyddhad ar yr 20% sy’n weddill o’r ardrethi busnes rhwymedig, a hynny o dan adrannau 47(1) a (2) o’r Ddeddf.  Os dyfernir unrhyw ryddhad yn ôl disgresiwn, mae’r awdurdod lleol yn talu 75% ohono, a Llywodraeth Cymru sy’n talu’r 25% sy’n weddill.  Pe bai’r awdurdod lleol yn trosglwyddo gwasanaethau hamdden neu ddiwylliannol i ymddiriedolaeth elusennol, yr arbedion mwyaf y gallai eu gwneud o ran ardrethi busnes felly yw 85%.  O dan adrannau 47(1) a (2) o’r Ddeddf, mae’n bosibl na châi ymddiriedolaeth hamdden neu ddiwylliannol heb statws elusennol hawlio rhyddhad ardrethi gorfodol, ond gallai dderbyn hyd at 100% o ryddhad ardrethi yn ôl disgresiwn, gan ddibynnu ar benderfyniad yr awdurdod lleol.

Yn ddiweddar, ymgynghorodd Cyngor Sir Benfro ar gynigion i newid y ffordd y caiff canolfannau diwylliannol a hamdden eu rhedeg.  Yr opsiwn a ffafrir yw y bydd Winckworth Sherwood, cwmni allanol sy’n darparu cyngor arbenigol i’r cyngor, yn sefydlu ymddiriedolaeth elusennol i redeg ei gwasanaethau diwylliant a hamdden.  O ystyried ardrethi busnes yn benodol, mae’n amcangyfrif y bydd y dull hwn yn galluogi’r Cyngor i arbed £637,000 yn flynyddol mewn ardrethi busnes.  Fodd bynnag, mae undeb llafur UNSAIN yn gwrthwynebu’r cynlluniau hyn, gan nodi efallai na wireddir yr arbedion ariannol hirdymor a gynigir yn y rhagolwg hwnnw, a’r ffaith y bydd y Cyngor yn gorfod ysgwyddo costau heb fod ganddo’r pŵer i gyfarwyddo gwasanaethau.

Ceir manylion o astudiaethau achos o drosglwyddo asedau cymunedol ar wefan Llywodraeth Cymru.  Mae un ohonynt yn ymwneud â throsglwyddo gwasanaethau hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i Aneurin Leisure ym mis Hydref 2014.  Y prif ffactorau dros drosglwyddo oedd cynnal y gwaith o gyflawni amcanion cymdeithasol, a bodloni’r gofynion yn strategaeth ariannol tymor canolig y cyngor, gan gynnwys cyflawni arbedion ardrethi busnes.

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru Cyflawni â llai - Gwasanaethau Hamdden ym mis Rhagfyr 2015.  Canfu’r adroddiad fod perchnogaeth a rheolaeth yn y sector cyhoeddus o ran darparu hamdden yn newid wrth i asedau a gwasanaethau drosglwyddo i fodelau eraill o weithredu. Fodd bynnag, nid oedd y penderfyniadau bob amser yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.  Nodir hefyd:

Mae opsiynau ymddiriedolaeth yn cael eu hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru ac yn cael eu hystyried yn gynyddol fel opsiynau sy’n cynnig amrywiaeth o fuddiannau ariannol, o ran y potensial i ddenu cyllid grant ychwanegol ac arbedion treth a TAW posibl, yn enwedig o ran y Rhyddhad Ardrethi Annomestig Cenedlaethol.

Fodd bynnag, amlygodd adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol hefyd fod risgiau posibl ynghylch y model ymddiriedolaethol, megis y risg na wireddid yr arbedion disgwyliedig ac y byddai angen cymhorthdal cynyddol gan y Cyngor, ac y byddai rheolaeth ddemocrataidd uniongyrchol dros y gwasanaeth yn cael ei wanhau.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil i lyfrgelloedd ymddiriedolaethau annibynnol a llyfrgelloedd cymunedol yng Nghymru, a nodwyd i rai arbedion ariannol sylweddol gael eu gwneud wrth i awdurdodau lleol drosglwyddo’r cyfrifoldeb am redeg llyfrgelloedd cyhoeddus i ymddiriedolaethau annibynnol, a hynny oherwydd arbedion mewn ardrethi busnes a TAW.  Fodd bynnag, noda hefyd fod oriau agor, materion a nifer yr ymwelwyr wedi gostwng mewn rhai llyfrgelloedd, yn sylweddol mewn rhai achosion.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn 2014, comisiynodd Llywodraeth flaenorol Cymru adolygiad arbenigol o gynlluniau cyfredol awdurdodau lleol ynghyd â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol o ran darparu gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus.  Yn dilyn yr adolygiad, ym mis Mai 2015, cyhoeddodd ganllawiau ar reoli llyfrgelloedd cymunedol ac, ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd ganllawiau arferion gorau ar gyfer trosglwyddo asedau cymunedol

Cyhoeddodd Chwaraeon Cymru Cyfleusterau ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol: Glasbrint ar gyfer chwaraeon a hamdden egnïol yng Nghymru ym mis Ebrill 2016.  Nododd:

§    Rhaid gweithredu er mwyn adolygu’r momentwm presennol sydd wedi arwain at benderfyniadau seiliedig ar arian mewn perthynas â modelau gweithredu yn y dyfodol - gyda’r prif gymhelliant yn cael ei seilio ar sicrhau arbedion treth ar unwaith;

§    Os caiff cyfleusterau eu trosglwyddo gan Awdurdodau Lleol i fenter gymunedol neu gymdeithasol newydd, rhaid cynnal adolygiad ymlaen llaw o’r stoc o gyfleusterau.

Ar 26 Tachwedd, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol at y Pwyllgor mewn perthynas â’r ddeiseb hon.  Yn y llythyr, dywedodd:

Looking forward, I am keen to explore different options for how the non-domestic rates system could operate in the future.  Introducing a new form of non-domestic rates relief could add to the complexity of the system and to the costs of administration for local authorities.  Such factors would need to be taken into careful consideration in developing the system.

The current rates system applies to all forms of non-domestic property, with a few specific exemptions.  This includes most forms of public property.  Charitable organisations receive rates relief because of their designated status as charities.  There would need to be a clear rationale for extending relief to public property or particular types of public property.  One consideration which would need to be taken into account would be the potential effect on the economy and the risk of distorting market conditions, particularly in areas such as leisure where there is a considerable market for private sector provision.  It would be inappropriate for local authorities to be able to grant rates relief to properties they own, particularly if this then increased the demand on other taxpayers in the area.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynhaliodd Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Pedwerydd Cynulliad ymchwiliad i Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru, yn ystod 2014, ac ymdriniodd hwnnw â throsglwyddo perchnogaeth llyfrgelloedd.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.  Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.